Mae gan Bartneriaethau Proffesiynol MFL drefniadau arbennig ar gyfer aelodau
o CCC a gall ddarparu gwarchodiad cynhwysfawr iddynt am bremiwm hynod
gystadleuol.
Byddai MFL yn barod iawn i fwrw golwg dros eich gofynion o ran Indemniad
Proffesiynol heb i chi'ch rhwymo'ch hun o gwbl.
Defnyddiwch y ddolen cyswllt os hoffech chi ffonio un o
gynrychiolwyr MFL neu ysgrifennu ato/ati. Fel arall, byddem yn barod i godi'r
ffôn ar adeg sy'n gyfleus i chi. Defnyddiwch ein ffurflen cais am alwad i wneud hynny.
Er mwyn i MFL roi a chadarnhau dyfynbris, bydd angen i chi roi'r wybodaeth
berthnasol ar ein ffurflen gais.
Cewch lawrlwytho ffurflen gais mewn fformat o'ch dewis o'r ddolen isod, neu
anfonwch gopi o'ch ffurflen gais bresennol/adnewyddu ddiweddar ynghyd â chopi o
atodlen eich polisi a geiriad y polisi presennol os oes modd.
Os bydd eich dogfennau ar gael mewn fformat electronig gellir eu llwytho i
fyny'n hwylus drwy'r wefan hon gan ddefnyddio'r nodwedd llwytho cyflwyniad i fyny.